VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 09:50:53 10/22/01 Mon
Author: simon aran
Subject: Pwnc Y Nawfed Wythnos


Beth ydy eich hoff chwaraeon? Dych chi'n chwarae'ch hunain, neu 'mond yn gwylio? Be' dy'r nifer fywaf o bobl sy wedi bod yn gwylio pan oeddech chi'n chwarae?

[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> mmm, mae'n anodd i ddeud, mae 'na cymaint o chwaraeon, dw i ddim yn siwr, mmm, ella... rygbi. dyna fo! dw i ddim yn chwarae fy hun erbyn hyn, ar ol cael fy mrwr ar y pen gormod o weithiau (er bod rhai yn meddwl taw y ffordd gorau i baratoi dros chwarae rygbi ydy hynny!), ond dw i'n helpu efo hyfforddu plant rhan amser, dw i'n aelod o'r clwb lleol, a dw i'n gwylio'r gem yn weddol aml. ond wi'n licio llawer o chwaraeon eraill, 'fyd, ac yn meddwl bod nhw yn rhan pwysig o gymdeithas - gan ddysgu pobl ifanc sut i weithio efo'n gilydd, sut i gystadlu, sut i ennill ac i golli, ac yn y blaen. -- simon aran, 09:58:58 10/22/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> Dw i'n siwr bod pawb yn Gymru wedi dysgu'n iawn sut i golli erbyn hyn. -- Judith, 22:23:05 10/28/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> wel, mae'n debyg mod i'n araf iawn, achos fod o'n dal i fy mhrifo i pob blydi tro. ond mae iestyn wedi cyrraedd! halleliwia! bydd pob dim yn dda! -- simon aran, 13:48:54 10/29/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Dwi’n lico beicio yn fawr iawn a dwi’n mwynhau y Tour de France bob blwyddyn. Dyw canolbarth Cymru ddim cweit fel yr Alps ond mae’n teimlo fel nhw pan ti’n strugglo lan yr A44 allan o Aberystwyth. Dwi wedi bod astudio hanes beicio yng Nghymru a roedd na bencampwyr y byd o Gymru yn y 1890s. Enillon nhw rasus mawr ym Maris, Efrog Newydd, Llundain. Ond doedd dim diwedd hapus i storiau. Bu farw dau pencampwyr enwog iawn o Gymru pan oedden nhw ifanc iawn trwy’r effaithiau o ddefnyddio cyffuriau i helpu nhw cystadlu. Tipyn bach o ein hanes ni dyw pobl ddim yn gwybod amdana. Duw, mae bwrdd yn addysgol iawn. -- Steve, 15:03:44 10/22/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Fy hoff chwaraeon i, heb os nag oni bai, yw RYGBI! Dwi'n cefnogi Castell Nedd (efallai oherwydd mae Shane Williams yn chwarae iddynt..) ONd dwi hefyd yn cefnogwr frwd iawn o Gymru. Dwi wedi bd yn gwylio Cymru yn stadiwm y milwniwm sawl tro - hyd yn oed i agoriad cwpan y byd dwy flynedd yn ol! Roedd hwnna'n profiad anhygoel - roedd pawb, hyd yn oed Saeson yn ceisio, canu 'sospan fach', 'keep a welcome' a 'bread of heaven'. Roedd y stadiwm yn llawn - 72mil o bobl! -- Ffion, 19:34:56 10/22/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Ooo... Fy hoff chwaraeon ydy gêm ddonial iawn... "chwilio am le parcio yn y bore cynnar". Mmm... Mor diddoral. Mae pobl yn gallu chwarae ar ein hunain neu gyda pobl eraill... Bob amser mwy diddoral gyda cystadleuaeth. Mae e'n prawf gwir o anian. -- Heather, 23:32:58 10/22/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> Sutmae Heather, mae dy hoff chwaraeon di'n debyg i eiddo. Ond does dim rhaid i fi chwilio am le parcio, achos 'mod i'n mynd ar y beic. Felly mae e'n haudd iawn ffeindio "le parcio". Ond y gêm myfyrwyr ein prifysgol ni yw ffeindio'r beic ar ôl y dosbarth. Neu, pan ro't ti wedi bod yn lwcus iawn i'w ffeindio fe yn gyflym (neu o gwbl ,achos bod yn eitha llawer o feiciau cael ei ddwyn) yw'r cwestiwn, os ti'n gallu mynd â dy feic di gyda thi. Achos bod rhai o bobl yn clo dy feic di gyda eu beic nhw. Ac achos dy fod di ddim yn gwybod gyda phwy mae beic hyn (achos mae yma bron 200) mae rhaid i ti fynd trwyr holl adeulad ac yn trio ffeindio berson reight. Roedd hynny'n digwydd i fi tairwaith mewn tair wythnos nawr. Doniol iawn. Ro'n i'n meddwl am gerdded yn y dyfodol. (Ond mae hynny yn golygu godi yn gynnar iawn. Falle dydy e ddim syniad da.) -- Karen, 15:54:53 10/23/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> Aaack! Mae hi'n flin 'da fi, Karen. Chwaraeon mor... beth yw'r gair Cymraeg am "antagonising?" Dim llawer o hwyl o gwbl! Ond... pob lwc 'da ti ... gobeithio mwy lwc yn y dyfydol! -- Heather, 23:10:31 10/23/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> [> Ydy'r rhain chwaraeon tim neu unigol? Maen nhw'n swnio fel rhyw fath o chwaraeon eithafol i fi. 'Swn i dechrau 'tiddly-winks' neu rhywbeth sy'n cymryd llai o straen, taswn i'n chi. -- Judith, 15:53:31 10/28/01 Sun


[ Edit | View ]


[> Dw i'n hoffi amrwyaith o chwaraeon ond dydy hi ddim yn anodd i mi dewis fy hoff, sef rygbi - am syndod! Yn enwedig dw i'n hoff o rygbi pan mae Caerdydd yn stwffio'r gwrthwynebiad, fel wnaethon nhw ddoe. Yn anffodus, yn yr hen dyddiau (pan roeddwn i yn yr ysgol) doedd 'na ddim caniatad i ferched chwarae rygbi, felly dw i erioed wedi chwarae gem go iawn. Fel Simon, dw i hefyd wedi hyfforddi plant. Dw i'n gobeithio ail-ddechrau mis Ionawr, wedi'r cwbl, mi ddylai pawb cael y cyfle i chwarae ein gem genedlaethol ni - a dw i ddim yn siarad am snwcer neu darts, Steve. -- Judith, 22:19:36 10/28/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> ro'n i'n meddwl amdanat ti tra gwylio caerdydd dydd sadwrn. tipyn o chwaraewr ydy'r iestyn 'na, chwarae teg. ond... yntydy o'n gwneud i ti poeni am ddyfodol jenks yng nghaerdydd? mae'n mynd i fod yn anodd iawn gadael iestyn ar y fainc o hyn ymlaen, wi'n meddwl. yn bersonol, 'swn i'n licio ei weld o'n chwarae cefnwr am gem neu ddwy... -- simon aran, 07:53:27 10/29/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> Dw i wedi bod yn boeni am ddyfodol Jenks ers talwm, a ddweud y gwir - ers cyhoeddodd o ei fwriad i gadael y gem rhwngwladol. Mae'n debyg bod y rhan fwyaf o chwaraewyr sy wedi colli ei huchelgais/ ei hyder/ ei hiechyd/ safon uchel ei gem (neu beth bynnag ydy'r rheswm i ymddeol) yn ddechrau mynd lawr y bryn efo safon ei gem clwb hefyd. Basai'n gwych i weld o'n chwarae'n dda eto a basai'n dda i Gaerdydd cael nerth yn safon maswr ond 'swn i ddim cael syndod os mae o'n mynd n'ol i Bontypridd. Mae ei deulu a chalon dal yna, a (mwy i'r pwynt) mae Lyn Howells wedi dychwelyd yn barod. Mae'n edrych i fi fel tasai'r dau ohonyn nhw yn dod fel par! -- Judith, 14:11:53 10/29/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> [> wedi clywed rhai son am symudaid nol i bontypridd 'fyd. gawn ni weld. er mor dda ydy harris, 'swn i'n licio weld o'n chwarae 12 i ddechrau, efo jenks 10 o hyd. gobeithio y bydd ei benglin yn iawn... -- simon aran, 20:55:47 10/29/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Ond mae dau canolwr wedi dechrau chwarae'n dda erbyn hyn ac wedi dod yn uned cryf eto .....a phan mae Rhys Williams yn cael ei ysbrydoli 'sneb yn well fel cefnwr chaith. Efallai byddai'n well iddyn nhw rhannu'r crys rhif 10 (ac y pwysau) ac osgoi'r probelm o ddod yn or-blinedig cyn diwedd y tymor. -- Judith, 23:10:14 10/29/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> i fod yn onest (a rhad fy nghywilydd i!) o'n i'n meddwl am gymru mwy nag am gaerdydd...! y peth ydy bod rhif deg yn tueddu i rhoi y siap ar y tim, a felly dw i'm yn meddwl fod o'n helpu os chi'n newid o yn aml. 'sai lot well i newid rhwng harris a muller yn y crys 12, os ti o ddifri yn credu bod muller mor dda nag harris...:) a ga i jest ddeud bo gen i ddim amser o gwbl i rhys williams, sy'n hollol annibyniadol a ddim yn cicio'n dda 'chwaith. mae kevin morgan yn lot well, a fyddai'n diddorol dros ben i weld harris yn chwarae 15 efo'r hawl i grwydro... -- simon aran, 10:07:48 10/30/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> 'Sdim Cymru cryf heb Gaerdydd cryf! Dw i'n credu bod Muller yn fwy pwysig i'r tim na ti'n sylwyddoli ..... a beth bynnag ydy 'annibyniadol' dw i'n anghytuno'n llwr. Mae Morgan yn dda - yn ddiogel ac yn gyson ond mae 'na diffig o gyffro yn ei gem, dw i'n teimlo, ac (y peth gwaethaf) mae o'n cael ei hanafu bron pob gem - ond mi fydda i wastad yn ddiolchgar iddo fo am achub Cymru A yn erbyn Lloegr A efo tacl arbennig o dda yn y munud olaf y gem (Wrecsam, 1998). -- Judith, 12:08:23 10/30/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> annibyniadol? 'mond cynnig i adeiladu gair roedd o, ond mae gen i rhyw teimlad fod o'n bosib... am rhwyun ti ddim yn medru dibynnu arno fo... a dyna ydy rhys i'r dim! mae'n glir dy fod ti heb weld abertawe yn digon aml - mae morgan yn ymosodol iawn ac yn cydweithio'n well na williams. ydy, mae muller yn pwysig i gaerdydd - fel y mae jenk a harris, a dim ond dwy safle ar gael... ond dyna'r rhan o rheswm dw i isio weld harris yn cefnwr. a 'sdim cymru cryf heb... twt lol. ddim yn haeddu ateb...;) -- simon aran, 15:52:16 10/30/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> 'Sdim twt lol o gwbl - mae 'na 8 chwaraewyr Caerdydd yn y carfan a chafodd ei cyhoeddi heddiw, allan o 31 (mwy na chwarter, jest rhag ofn ti ddim mathemategydd) hyd yn oed heb chwaraewyr fel Jenks, Craig Morgan, Nick Walne, Martin Williams ayyb. Paid a honi y baset ti'n hapus i weld Cymru'n chwarae hebddyn nhw. -- Judith, 23:44:54 10/30/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> ..... a mi welais i Abertawe mis diwethaf - yn golli yn erbyn Caerdydd! Dyfala pwy oedd y cefnwr gorau. -- Judith, 13:36:21 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> welais i'r un gem, a do'n i ddim yn meddwl lot o dy rhys di...;) 'lly ti'n deud bod y ffaith caerdydd wedi dwyn cymaint o chwaraewyr yn dda i rygbi cymreig? hmmm... mae 'na chwaraewyr ifanc yn eistedd ar y fainc (os ydyn nhw'n lwcus) dros caerdydd a allai gwella eu sgiliau a profiad nhw gan chwarae dros rhyw clwb arall. gwastraff llwyr ydy o... ella y byddai caerdydd gwan yn golygu cymru cryf... -- simon aran, 14:02:25 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> Pwy sy'n siarad lol 'wan? Siomedig iawn ydw i i weld dy fod di'n dechrau llusgo allan yr hen chwedlau am Gaerdydd a dw i ddim yn mynd i ateb nhw..... wnes i credu dy fod ti'n ddadansodwyr well na hynny. Ac am y gem Abertawe - wnest ti weld o neu cysgu trwyddo fo? Wnes i ddim dweud bod Rhys oedd y gorau yn y gem 'na naddo? Roedd Gareth Swales (Abertawe) yn well a sgoriodd o cais. Doedd Kevin Morgan ddim hyd yn oed yn chwarae - wedi ei anafu, mwy na thebyg. -- Judith, 17:40:17 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> esgusodwch fi, wedes i ddim byd am kevin morgan yn y gem yn erbyn caerdydd, wedes i mod i ddim yn meddwl lot am rhys yno...! twt, darllena be dw i'n sgwennu, twt. a hen chwedlau ydyn nhw, 'lly? 'lly ti ddim yn meddwl bod gen caerdydd chwaraewyr safon rhwyngladol ar y fainc, ia? 'mond ddangos ydw i bod 'sdim rhaid caerdydd cryf er mwyn cymru cryf. be sy isio ydy london welsh cryf...;) -- simon aran, 19:47:39 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> Byddai'n well gan y chwaraewyr eistedd ar y fainc Caerdydd na chwarae dros tim arall. 'Sdim byd yn stopio nhw symud i glwb wahanol - heb law y gwybodaeth bod 'sdim lle well. A beth ydy dy diddordeb di yn London Welsh? Faint o chwaraewyr Cymraeg sy' gennyn nhw? Llai na Castell Nedd - os mae hynny'n posibl!. -- Judith, 23:59:08 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> Sori, wna i darllen y llinellau y tro nesaf, nid rhwngddyn nhw! -- Judith, 08:06:11 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> ohie, ti ddim yn gwybod nhw i gyd felly?! Ta beth dwi'n credu fod angen llai o chwaraewyr Caerdydd yn garfan Cymru a mwy o chwaraewyr Castell Nedd!! -- Ffion, 16:50:23 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> y duon 'na? fel pwy?! heblaw am duncan jones, sy'n haeddu lle ar y fainc. -- simon aran, 19:49:30 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> y lyfli Shane williams, Barry williams, Gareth Llewylyn (chwaraewr dda er ei fod yn eithaf hen erbyn hyn) -- Ffion, 22:48:13 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> Dw i ddim yn deallt dy obsesiwn di efo'r dyn 'ma. -- Judith, 00:05:37 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> Roedd hwn i Simon ynglyn a Duncan Jones (aelod o'r teulu efallai?) - dw i'n hen cyfarwydd a Ffion a Shane Williams. -- Judith, 00:14:44 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> Paid ti meiddio barnu fy rhysi i! Mae o'n gorjus, yn gyhurog, yn siarad cynraeg ac yn annwyl iawn (y cyfan ti angen mewn dyn!!). mi ges i fy lun wedi ei dynnu efo fo yn Wrecsam yn y gem 'A' diwethaf. Y problem efo Kevin yw ei fod yn dueddol o 'snapio' os oes rhywun cryd yn hyd yn oed rhedeg ato fo!! -- Ffion, 16:45:33 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> wps, oeddwn i'n meddwl cyMraeg, nid cymraeg a cryF nid cryf - sgwennu'n rhy gyflym ydw i -- Ffion, 16:58:26 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> reit, iawn 'ta, wrth gwrs, a mae rhys yn taclwr anhygoel, yndy? o, yn siwr, yn bendant - wel, alla i ddim yn gredu pa mor absennol ydy o'r rhan fwyaf o'r amser, o leia. -- simon aran, 19:51:58 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]


[> a tra bod ni'n dadlau yma, mae siwan yn paratoi i fynd i'r gem yn erbyn ariannin. dych chi ddwy yn fwriadu mynd? rhaid i mi fod yn llundain, sy ddim yn teg o gwbl. ella y bydd siwan yn sgwennu adroddiad o'r gem yma i ni gyd...! pwy a wyr... -- simon aran, 19:55:09 10/31/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> Hoffen ni ond, yn anffodus, rhaid i ni bod rhywle arall hefyd. Mae bai ar Ffion - penwythnos preswyl i drefnu Senedd Ieuenctid Cymru ydy hi. Cynllunio ddrwg 'swn i ddweud. Beth am Tonga yr wythnos wedyn? -- Judith, 00:25:55 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> gwleidyddiaeth cyn rygbi? ydy hi'n sal? ydy, mae tonga yn bosiblrwydd, yn dibynnu ar y sefyllfa ariannol...;) ac i ateb dy bwyntiau eraill, ydy eistedd ar y fainc yn helpu nhw datblygu fel chwaraewyr? ia, reit. dim lle well, neu nunlle efo cymaint o arian? a son am london welsh, wel, dyna ydy'r tro diwethaf i gymru'n fod yn cryf, pan roedd 'na llawer o chwaraewyr london welsh yn y garfan, felly... a gair i ffion - pwy 'dy 'llew-y-lyn'?! rhyw fath o anifail wyllt sy'n nofio, ella? a dyna ydy sut mae o'n chwarae, 'fyd. barrie williams? be 'dy 'showpony' yn y gymraeg, lly?...:) -- simon aran, 11:42:13 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> Sorri, fy teipio drwg i. Llewelyn oeddwn i'n meddwl siwr. Mae Barry yn chwaraewr o safon i chdi cael dallt! -- Ffion, 18:31:53 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> na Simon dydw i ddim yn sal o gwbwl. Nid fi penderfynnodd ar y dyddiad - mi ddewdais i wrth y cyd-lynydd am gemau'r hydref ond... -- Ffion, 18:34:14 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> twt, esgus wan. mae rhaid i ti sefyll yn gryfach dros dy egwyddorion di...:) -- simon aran, 19:53:05 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> dyma pam dwi'n mynd i'r penwythnos. sori, ond does dim angen llawer o egwyddorion i wylio rygbi ond mae angen ar gyfer gwleidyddiaeth!! (ond dyw hynny ddim yn dweud nad ydw i'n caru rygbi a 'falle ai a radio bach i gael gwrando ar y gem!) -- Ffion, 22:11:22 11/01/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> licio syniad y radio ydw i, a gobeithio'n fawr dy fod ti'n dallt mod i'n jocian am y gweddill...! ond mae rygbi yn medru cael effaith ar dy egwyddorion di - fel dy fam di, er enghraifft, sy bellach ddim yn medru gweld unrhywbeth o'i le efo caerdydd, heblaw am golled ar y cae yma ac acw... ac acw... ac acw... 'swn i'm yn synnu petai hi'n cytuno efo cael pob dim newydd yn sefydlu yng nghaerdydd...;) -- simon aran, 09:21:10 11/02/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> Ffordd siwr i brifocio pobl yng Nghymru – dechrau siarad am rygbi! Dw i ddim wedi bod darllen y bwrdd neges yn yr wythnos diwetha ond be’ dwi’n ffindo pan dwi’n dod yn ol – dadl enfawr ar rygbi! Dyw e ddim mor pwysig a hynny ac mae’r pêl yn siap anghywir. -- Steve, 11:17:47 11/02/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> ond Steve ar y llaw arall - ti'n gwybod sut i stopio'r ffans rygbi rhag ymladd ymysg ein gilydd (gwendid y cymry) yn dwyt?! - unioni ni mewn brwydyr yn erbyn y gem diflas bel-grwn yna! Felly dewch 'mlaen pob Cymry falch cefnogwch fi a sticiwch fyny dros ein gem cenedlaethol!! -- Ffion, 17:31:55 11/02/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> Dyw rygbi ddim ein gêm genedlaethol. Mae pêl droed yn llawer mwy poblogaidd na rygbi yng Nghymru. Mae llawer mwy tîmau pel droed na thîmau rygbi ac mae llawer mwy chwaraewyr pêl droed. Mae rygbi yn gêm am y pobl sy ddim yn cael digon o skill i chwarae pêl droed. Mae’n pwysig i gael rywbeth am y ‘muddied oafs’ i wneud ar y prynhawn dydd Sadwrn. -- Steve, 15:43:11 11/05/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> [> mae 'na mwy o chwaraewyr pel-droed na rygbi yn seland newydd, 'fyd. dy hynny'n golygu dydy rygbi ddim y gem genedlaethol yno, 'chwaith? twt lol! y peth ydy bod angen mwy o beth i chwarae rygbi na pel-diflas, a hefyd dydy rhai pobl ddim yn medru ymdopi efo cymhlethdod y gem rygbi gan cymharu i'r gem arall di-bwynt a gor-hawdd...:) -- simon aran, 17:05:59 11/06/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> Taswn i'n dod o Abertawe, 'swn i eisiau cadw'n dawel am gem genedlaethol Lloegr. -- Judith, 21:46:40 11/03/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> cytuno ac yn deall Simon ;-) -- Ffion, 17:26:18 11/02/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> qghytuno -- brieg, 22:52:02 11/02/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> Dw i'n anghytuno ac yn cefnogi Steve a'r bêl â'r siap cywir. -- brieg, 22:59:45 11/02/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> [> [> ti'n meddwl mai'r siap cywir ydy hynny? dylet ti fynd i weld meddyg...;) -- simon aran, 17:00:26 11/06/01 Tue


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.