VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 15:58:06 09/14/01 Fri
Author: simon aran
Subject: Rali Glyndwr

judith, dw i'n mynd i anfon e-bost atat ti, ond jest rhag ofn i ti fod yma yn gyntaf, dych chi isio lifft i lawer i gaerdydd? dw i wedi penderfynu i ddreifio, achos bod y bws cymdeithas yn ddod nol hanner 'di pump... a dw i isio mynd allan!

felly gad i mi wybod...

a'r gweddill ohonoch chi - gwilym, melissa, unrhywun arall sy'n mynd i fod yng nghaerdydd yfory - os dyn ni ddim yn eich weld chi yno, beth am gyfarfod ar prif fynedfa y cynulliad ar ol y rali? dyn ni'n mynd i aros yno am rhyw chwarter awr ar ol y rali, jest rhag ofn... gobeithio wela i rhai ohonoch chi yno...

[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> wel, wnes i mwynhau fy hun - diolch i chi gyd am eich cwmni... gobeithio dy fod ti'n ymarfer dy air newydd di, gwilym - sef 'bendramwnwgl'...:) a gobeithio bod dy deulu di yn teimlo'n well ar ol y taith nol, judith...;) wnest ti treulio weddill y noson yn yr un tafarn, siwan?! -- simon aran, 14:00:53 09/16/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> Diolch yn fawr i ti Simon am y lift. Helo i Gwilym a Siwan hefyd, gobeithio wnaethoch chi fwynhau. Dwi wedi dod dros y taith gyflym diolch! (ond dwi ddim yn siwr an Hedd, o na, mae o mor rhyfedd a hynny o hyd, paid a phoeni!!) Gyda llaw oeddwn i'n golygu popeth a wedais i am dan Celt Simon ;-) -- Ffion, 21:48:09 09/16/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> grrrr, y ddiawl bach... os dw i'n dy weld di ar y ffordd i aber wythnos i dydd gwener, dw i'n mynd i dy fwrw di i lawer efo nghar i...:) gest ti'r email am cymuned? wnes i anfon o i gyfeiriad dy fam di... -- simon aran, 23:18:54 09/16/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> galli di ddim bwrw fi oddi ar y ffordd achos fy marn i o Celt! Byse ti ddim yn meiddio ta beth - mae dy gar yn llawer rhy smart ac annwyl i ti, byse ti ddim yn aberthu dy gar er mwyn bwrw ein hen gar ni oddi ar y fordd!! -- Ffion, 17:00:09 09/17/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> gallaf, mi gei di weld! beth bynag, dw i'n disgwyld dy weld di'n cerdded, achos dydy dy fam di ddim yn swnio fel tasai hi'n fodlon dod i lawer... felly, targed hawdd... -- simon aran, 18:24:06 09/17/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Re: Rali Glyndwr -- brieg, 23:40:49 09/16/01 Sun

Sut mae pethau, bawb ? Does dim newyddion am y rali yma (yn Llydaw) a hoffwn i wybod : beth oedd pwnc y rali ? Faint o bobl oedd yno ? Faint ohonoch chi ymladdodd â'r plismon ? Faint ohonoch chi gafodd eu anafu, eu dal gan yr heddlu ? Faint o geir a siopau gafodd eu llosgi ? Wel, beth wnaethoch chi yn union ac eithrio mynd am dro dan yr haul (?) ? Croeso i Ffion ar y bwrdd (a Hedd, a David) sy'n nabod pobl y grwp 3 (gwrp Seimon Aran) i gyd yn dda (er i rai o'r grwp beidio â'i nabod).


[ Edit | View ]



[> Sut mae pethau, bawb ? Does dim newyddion am y rali yma (yn Llydaw) a hoffwn i wybod : beth oedd pwnc y rali ? Faint o bobl oedd yno ? Faint ohonoch chi ymladdodd â'r plismon ? Faint ohonoch chi gafodd eu anafu, eu dal gan yr heddlu ? Faint o geir a siopau gafodd eu llosgi ? Wel, beth wnaethoch chi yn union ac eithrio mynd am dro dan yr haul (?) ? Croeso i Ffion ar y bwrdd (a Hedd, a David) sy'n nabod pobl y grwp 3 (gwrp Seimon Aran) i gyd yn dda (er i rai o'r grwp beidio â'i nabod). -- brieg, 23:45:37 09/16/01 Sun

Sut mae pethau, bawb ? Does dim newyddion am y rali yma (yn Llydaw) a hoffwn i wybod : beth oedd pwnc y rali ? Faint o bobl oedd yno ? Faint ohonoch chi ymladdodd â'r plismon ? Faint ohonoch chi gafodd eu anafu, eu dal gan yr heddlu ? Faint o geir a siopau gafodd eu llosgi ? Wel, beth wnaethoch chi yn union ac eithrio mynd am dro dan yr haul (?) ? Croeso i Ffion ar y bwrdd (a Hedd, a David) sy'n nabod pobl y grwp 3 (gwrp Seimon Aran) i gyd yn dda (er i rai o'r grwp beidio â'i nabod).


[ Edit | View ]


[> [> helo 'na, yr hen goes! mae'n ddrwg gen i, ond wnaethon ni ddim wneud dim byd fel ti'n awgrymu dylwn ni fod wedi gwneud - mae'n glir bod angen mwy o bobl llydaw yma i bywiogi'r sefyllfa...:) fel dwedodd ffred ffransis, mae dulliau di-drais yn rhan pwysig o'n brwydr ni! roedd 'na rhyw dau neu tri cant o bobl yno, 'swn i'n deud - ond dw i'n anobeithiol efo niferoedd, felly os gen unrhywun arall syniad well...? pwnc y rali oedd bod ni isio deddf iaith newydd a deddf eiddo newydd - deddf iaith i ganolpwyntio ar y ffordd y gymraeg yn cael ei defnyddio (neu peidio) mewn cwmniau preifat, a'r deddf eiddo i drio rheoli prisiau tai yn y cefn gwlad, i roi cyfle i bobl leol prynu nhw. o'n i isio ymladd a heddwas, ond na fyddai siwan yn gadael i mi wneud o, yn anffodus...;) -- simon aran, 01:09:24 09/17/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> Sori - dw i ddim yn siwr o gwbl sut i weithio yr bwrdd 'ma! Help! Ro'n i'n bwriadu ddweud "llongyfarchiadu" i bawb sy wedi mynd i'r rali - diolch i chi gyd! Ond mae fy neges wedi diflannu - eek. Helo i bawb - y technophobe anobeithiol Mike x. -- Mike, 20:56:04 09/19/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> o hyd! braf iawn dy weld di yma... o'n ni wedi bod yn dechrau i boeni amdanat ti... wel, dim yn gormod, ond...;) dw i'n siwr mi fyddi di'n dysgu sut i ddefnyddio'r bwrdd cyn bo hir! roedd y rali yn lot o hwyl - wyt ti'n dwad i'r cyfarfod cyffredinol cymuned yn aber, wythnos i dydd gwener? gobeithio wela i di yno... -- simon aran, 21:59:21 09/19/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Jyst sgwennu'r neges yn y bocs "Message subject", reit? Ydy hwn yn gywir? Fydd y cyfarfod Cymuned y dydd gwener nesa - yr 28ed? Ble? Am faint o'r gloch? Do'n i ddim yn siariad lot o Gymraeg yn ddiweddar - bydd e'n dda iawn ei wneud unwaith eto. Manylion, plis Simon, a gwela i ti yno. Dw i'n bwriadu ymuno a Gymuned ar ol i fi edrych ar eu gwefan. -- Mike, 23:33:55 09/22/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> dyna fo, ti ddim yn technophobe o gwbl! mae'n deud yn y neges e-bost y bydd y cyfarfod yn 'neuadd y buarth' a'r cwps... ddim yn gwybod lle mae'r neuadd, 'sgent ti unrhyw syniad? a dw i'm yn siwr 'chwaith pryd mae o'n dechrau... dydy o ddim yn deud ar y wefan cymuned, yn anffodus... wela i di yno'n bendant...:) -- simon aran, 17:49:41 09/23/01 Sun


[ Edit | View ]


[> Re: Rali Glyndwr -- Mike, 20:50:15 09/19/01 Wed

Llongyfarchiadau i bawb sy wedi mynd i'r rali. Ro'n i'n yn yr Swydd Efrog y penwythnos 'na, felly roedd e'n amhosibl i ddod i Gaerdydd. Tro nesa, dw i'n addo...


[ Edit | View ]


[> [> Dwedodd Mike: 'Llongyfarchiadau i bawb sy wedi mynd i'r rali. Ro'n i'n yn yr Swydd Efrog y penwythnos 'na, felly roedd e'n amhosibl i ddod i Gaerdydd. Tro nesa, dw i'n addo...' -- heddlu y bwrdd, 21:57:11 09/19/01 Wed


[ Edit | View ]


[> Mae'r cynhadledd Cymuned dydd Sadwrn yn ddechrau 10.30yb. Mae Neuadd y Buarth yn Ffordd Stanley - ond s'gen i dim syniad ble mae Ffordd Stanley. Gobeithio wela i ti yno, Mike. -- Judith, 15:57:45 09/27/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> Diolch am fanylion, Simon a Judith. Yn anfoddus, alla i ddim fynd i gynhadledd yfory - dw i'n i ffordd y penwythnos 'ma. Bugger! Gobeithio bydd e ddiddorol. Dw i'n edrych ymlaen i glywed amdano fe. A gwela i chi bawb cyn bo hir. -- Mike, 19:31:58 09/28/01 Fri


[ Edit | View ]


[> Gobeithio wnes ti mwynhau y penwythnos, Mike. Roedd y cyfarfod mwy phoeni na ddiddorol, 'swn i dweud - mae sefyllfa'n waeth nag oeddwn i'n disgwl. Cafodd nifer o bwnciau eu drafod : dulliau'r mudiad, diffinio'r broydd Cymraeg, tai, mewnlifiad, all-lifiad, gwaith a'r iaith. Yn anfodus doeddwn i ddim yn gallu ymuno'r dadl gan fod wnes i colli fy nglais i yn llwyr! Am mwy o fanylion edrycha a'r wefan : www.cymuned.org -- Judith, 20:02:01 10/01/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> Diolch am hynny, Judith (a diolch am gadw'r bwrdd yn brysur hefyd!). Wyt ti'n iawn. Mae'r broblem yn fawr iawn. Dyn ni'n byw mewn byd newydd, lle mae pobl yn gallu symud yn haws nag erioed o'r blaen. Mewn genedl wledig, gyda iaith a diwylliant wahanol, bydd y broblemau'n fwy amlwg nag yn lleoedd arall. Ond rhaid i ni gyd drio! Bydda i'n darllen yr wefan Cymuned - diolch. -- Mike, 00:19:09 10/04/01 Thu


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.