VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 17:13:35 10/02/01 Tue
Author: Steve
Subject: Diolch Judith, ond dwi wedi bod yma ers gorffen y cwrs. Dwi wedi bod darllen bob wythnos ond dwi wedi bod brysur ofnadwy, felly, dw i ddim wedi gael llawer o amser i ysgrifennu ar y bwrdd. Dw i ddim yn cytuno da ti bod does dim diwylliant Saesneg. Dw i’n meddwl mae na ddiwylliant gyda bob cenedl, pwy bynnag ydyn nhw. Criced ar ‘old village greens’, dawnswyr Morris, cariad am y teulu frenhinol, stiff upper lip, ac ati, yw’r hen ystrydebau Saesneg ond mae na ddylanwadau newydd heddiw hefyd a diwylliant newydd. Dylanwadau Indiaidd, er enghraifft, ar cerddoriaeth, coginio, ffasiwn, ac ati. Cofia. Chicken Tikka Masala yw’r pryd o fwyd genedlathol Lloegr heddiw, fel wedodd rhyw gwleidyddwr. Cwestiwn diddorol arall: Oes na ddiwylliant Anglo-Welsh?
In reply to: Judith 's message, "Beth wyt ti'n awgrymu, Steve - ein bod ni yng Ngymru yn dreulio rhan fwyaf o'n amser ni mewn taferndai?? ... Fel taswn ni yn !... Gyda llaw, mae'n wych i weld ti yma, o'r diwedd." on 16:53:34 10/02/01 Tue


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> [> [> wel, mae 'na lenyddiaeth sy'n cael ei alw yn 'anglo-welsh', yntydy? ond dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod 'na diwylliant go-iawn. ella bod hi'n bosib i ddeud bod y diwylliant anglo-welsh yn un ffug, wedi dychmygu gan bobl sy wedi colli eu cymreictod wir. -- simon aran, 20:30:34 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> Dwi’n credu mae ‘na ddiwylliant Anglo-Welsh o ryw fath, sy’n diwylliant dosbarth gweithiol hefyd – llenyddiaeth Cymraeg trwy cyfrwng y Saesneg, gwleidyddiaeth adain chwith, rygbi, gwladgarwch Cymreig, bywyd teulu agos iawn, ac ati. Dw i ddim yn cytuno ‘da ti Simon, bod diwylliant Anglo-Welsh sy’n rywbeth wedi dychmygu gan bobl sy wedi colli eu cymreictod. Beth yw cymreictod? Ydy pobl sy’n siarad Saesneg wedi colli fe? Beth yw pobl Cymreig sy’n siarad Saesneg? – dan nhw ddim yn Saesneg ac mae diwylliant gyda nhw sy’n gwahanol i ddiwylliant Saesnig. Cymro o’n i pan siaradais i dim ond Saesneg a dw i ddim yn hollol gwahanol nawr dwi’n siarad Cymraeg. Hefyd, mae na lawer mwy i gymreictod na’r iaith Gymraeg wrth cwrs. Dyw diwylliant ddim yn jyst yr iaith mae pobl yn siarad neu y llenyddiaeth maen nhw ysgrifennu. -- Steve, 13:50:37 10/17/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Dwi ddim yn credu mae yna diwylliant Anglo-Welsh i ddweud y gwir - diwylliant Cymreag ydy o, sy'n cynnwys gwahanol agweddau ee. cymoedd y de, mynyddoedd y gogledd sydd efo diwylliant ychydg yn wahanol i'w gilydd - mae o fel acenion i ddweud y gwir - un ychydig yn wahanol ar gyfer pob rhan o Gymru ond pob un dal yn Gymraeg. Dwi'n credu mai'r diwylliant angol-welsh rydych yn trio ei ddisgrifio h.y. rygbi, sosialaeth ayyb yw ddiwylliant de cymru. -- Ffion, 22:44:39 10/17/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> Dwi’n cytuno. Mae e’n diwylliant Cymraeg ond rhaid i ni defnyddio y gair ‘Anglo-Welsh’ i disgrifio diwylliant Cymraeg trwy cyfrwng y Saesneg. Gair hyll yw e sy’n awgrymu bod mae e’n diwylliant hanner Cymraeg a hanner Saesneg, ond dyw e ddim wrth cwrs. Beth gallwn ni defnyddio? Oes gair Cymraeg am ‘Anglo-Welsh’? Cymraeg di-Gymraeg? A dwi’n cytuno hefyd bod mae na llawer o ddiwylliannau Anglo-Welsh gyda gwahaniaethau bach. Mae e’n posib i weld yr un peth yn diwylliant Cymraeg. -- Steve, 10:43:26 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> dw i'n licio dechrau pethe! iawn, steve, felly ga i ofyn be ti'n feddwl am y posiblrwydd y byddan ni'n colli'r iaith i gyd? ar ol be ti wedi deud, mi fyddai hynny golgygu tipyn o siom, ond dim byd mor waeth nag hynny, achos dyn ni'n medru mynd ymlaen bod yn gymry heb yr iaith...? dw i'm yn cytuno am eiliad. gwlad heb iaith gwlad heb galon, fel mae ffion yn hoff o ddeud. y cymry di-gymraeg? maen nhw pobl sy wedi cael eu tafodau torri allan eu gegau cyn iddyn nhw hyd yn oed wedi cael eu geni... os oes 'na diwylliant anglo-welsh o gwbl (be dy'r gair gymraeg am anglo-welsh?!), diwylliant a adeiladwyd ar y gweddillion diwylliant cymraeg go-iawn y pedwaredd ganrif ar bymtheg ydy o. -- simon aran, 15:42:13 10/18/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> Dwi’n meddwl mae na bosiblrwydd byddan ni colli’r iaith Gymraeg. Am llawer o rhesymau, dwi’n meddwl bydd hynny yn trychinebus ond dw i ddim credu bod mae yn amhosib i fynd ymlaen fel gwlad heb yr iaith Gymraeg. Mae Cynulliad da ni nawr ac efallai bydd llywodraeth o ryw fath yn y dyfodol gyda mwy pwer. Ond dwi’n meddwl bod e’n peryglus beth wyt ti’n dweud Simon . . . ‘gwlad heb iaith gwlad heb galon’. Ti’n awgrymu bod mae popeth yn Cymraeg yn da ac mae popeth yn Saesneg yn drwg. Ti’n awgrymu bod mae pobl sy’n siarad Cymraeg yn werth mwy na pobl sy ddim. Hefyd, ti’n dweud bod mae cymry di-gymraeg yn ‘pobl sy wedi cael eu tafodau torri allan eu gegau cyn iddyn nhw hyd yn oed wedi cael eu geni’. Mae hynny yn awgrymu bod mae’n naturiol i siarad Cymraeg a dyw e ddim yn naturiol i siarad Saesneg. Dyw hynny ddim yn teg. -- Steve, 10:57:57 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> mae hyn yn troi yn bywiog, yndy?!...:) reit, lle i ddechrau... yma: dydy 'gwlad heb iaith gwlad heb galon' ddim yn golygu bod pob dim cymraeg a chymreig yn well na phob dim saesneg neu saesnig, ddim o gwbl - mae o'n golygu bod gwlad sy'n colli ei hiaith yn colli y prif gwahaniaeth rhwynddyn nhw a gwledydd eraill, y gwahaniaeth mwyaf gwerthchweil. y calon. mae diversity iaithyddol yn un mor pwysig a diversity biolegol, a mae hynny wedi bod yn pwsig iawn i ddynoliaeth. hefyd, dw i ddim yn deud o gwbl bod pobl sy'n siarad cymraeg yn well na phobl eraill - gwahanol, yndy, ond well? dim ond weithiau...;) (jôc, jôc!) a be' o'n i'n feddwl efo'r tafodau 'na ydy bod y di-cymraeg wedi colli rhywbath sy'n perthyn iddyn nhw, mewn ffordd hollol annheg. 'sgenno fo dim byd i'w wneud efo pa mor naturiol ydy'r iaithoedd - trio i bwysleisio'r ffaith bod cymry di-cymraeg wedi colli rhwybath ydw i. -- simon aran, 11:42:45 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> mae'n glir bod un gwahaniaeth syfrdaenol rhwng ti a fi, a dyna ydy be' dyn ni'n meddwl am gymru heb yr iaith. dw i ddim yn credu y byddai hi cenedl go-iawn heb yr iaith - diwylliant tipyn yn wahanol i'r diwylliant dros y fin, ond mae'r diwylliant yn gogledd lloegr yn un mor wahanol. os dyn ni'n colli'r iaith, dim ond rhyw cof gwan o wedi bod yn cenedl sy'n mynd i barhau, dim y peth eu hun. 'sai well i mi weld yr iaith yn cryfhau na annibyniaeth hyd yn oed. -- simon aran, 11:43:54 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> o, a beth am beint y tro nesa' dw i'n ol yn aberystwyth? os ti ddim yn meddwl mod i'n gormod o 'language fascist'...;) -- simon aran, 11:46:02 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> Dyna well! Nawr dwi’n gallu cytuno ‘da ti. Mae’r iaith Gymraeg yn llawer mwy na beth ydyn ni’n defnyddio i siarad – mae’n cario diwylliant, cofion, ac ati. bron popeth amdanon ni. Os ni’n colli iaith, ni’n colli llawer mwy na geiriau. Hyd yn oed mwy pwysig, ti ddim yn gormod o language fascist i gael peint gyda y tro nesa ti yn Aberystwyth. Y Cŵps neu Y Cŵps? -- Steve, 13:11:21 10/23/01 Tue


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.