VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 18:50:09 10/08/01 Mon
Author: Judith
Subject: Pwnc y saithfed wythnos (2)

Beth wyt ti'n gallu weld trwy'r ffenest agosaf? Beth wyt ti'n gallu clywed ar hyn o'r bryd? Rho blas o ble rwyt ti'n byw/gweithio, jest i blesio pawb sy'n fusneslyd!

[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> Dydy hwn ddim yr amser gorau i fi ymateb i'r cwestiwn - dim byd o gwbl ydy'r ateb ... tywyllwch llwyr! Os mae'n noson glir mae'n lle wych i weld seren, ond mae'n glawio ar hyn o bryd. Dw i ddim yn gallu clywed swn chwaith! Dyna'r cefn gwlad go iawn i ti. Pa mor diddorol oedd hwn? Byddai'n well gen i ceisio eto yfory - yn ystod y dydd. -- Judith, 21:43:31 10/10/01 Wed


[ Edit | View ]


[> Pan dw i'n trio weld trwy ffenest mae rhaid i fi fynd i stafell arall, achos does dim ffenest yn y stafell 'ma. Dw i'n yng nghanolfan cyfrifiadirau y prifysgol ar hyn o bryd, a dw i dim ond gallu weld 20 myfyriwr arall. Dw i'n gallu clywed y swn o bobl yn gweithio ac yn siarad. -- Karen, 15:59:58 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> Ystafell heb ffenestri? Gobeithio dy fod di ddim yn dioddef o glostroffobia - dydy penseiri byth yn feddwl? -- Judith, 15:40:00 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]


[> os dw i'n trio'n galed, dw i bron yn medru weld y palmant y tu allan. ydy, dw i'n bwy mewn fflat o dan y stryd, mwy neu lai. yn y cefndir, dw i'n medru clywed swn radio cymru, wrth reswm. -- simon aran, 20:24:40 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]


[> O'r diwedd mae gen i 'r gyfle i 'sgwennu rhywbeth cyn i'r golau yn mynd eto. Ar y chwith dw'n gallu weld coeden enfawr (gwern ydy hi), sy'n sefyll wrth ochr nant. Rhwng y gwern a choedwig bach ar y dde dw i'n gallu weld am filltiroedd i'r dde dwyrain, dros meysydd o ddefaid (ac un efo gwartheg). Fel arfer dw i'n gallu weld yr eglwys yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa (y pentre agosaf i Lanwddyn) - ble mae plygain y mwyaf gryf yng Ngymru - a phellach i'r mynydd efo cofgolofn ar ei ben o'r enw Colofn Rodney, rhwng Y Trallwm a'r ffin. Dydy hi ddim yn glir heddiw, felly dw i ddim yn gallu weld cyn pelled a'r colofn. Pan mae'n clir iawn mae'n bosib i weld tu hwnt - i'r Long Mynd, mynydd yn Loegr. Dw i'n gallu clywed swn y nant sy'n llifo yn gyflym ar ol y glaw trwm diweddar, can adar coedwig a ddadl y brain yn hedfan dros tir y ffermydd. Mae buwch newydd ddechrau gweiddi rwan, fel tasai mewn poen - dwedodd pwy bod y cefn gwlad yn dawel? -- Judith, 19:34:41 10/13/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> ti wedi troi yn bardd, dw i'n weld... -- simon aran, 12:15:41 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> Dyna'r effaith o fyw yma. -- Judith, 14:04:16 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> be, achos dy fod ti'n medru weld lloegr? ych a fi. -- simon aran, 16:26:42 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Dim o gwbl - oni bai ei fod o'n f'atgoffa i pa mor bell ydy Lloegr. Dydy hi ddim yn ddigon clir i weld y Long Mynd yn aml ... dim ond unwaith eleni dwi'n cofio ei weld o, ond o'r lon tu allan dw i'n gallu gweld i'r ffin (de dwyrain), i'r mynydd rhwng Drenewydd a Llandrindod (de), i Blunlumon (de orllewin) ac i Aran Fawddwy ac Aran Benllyn (gorllewin). Tasai hwn ddim yn dy ysbrydoli di basai rhywbeth o'i le. -- Judith, 22:02:23 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> twt, gad i mi lonydd, dim ond jocian o'n i! 'snunlle yn y byd yn well na'r hen arannau 'na, wi'n gwybod. ond wi'n dal i feddwl dy fod ti ar yr ochr anghywir...:) -- simon aran, 10:47:39 10/15/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Hmm... Rydw i'n gallu gweld llawer o goed. Mae dalenau(?) yn newid lliw... i goch, melyn. Llwyd yw'r awyr a mae hi'n tawel iawn heddiw. Gallaf i glywed ffilm yn y stafell arall. -- Heather, 20:34:41 10/13/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> pa ffilm oedd o?! -- simon aran, 12:16:43 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> "The Mummy" o'r 50's -- Heather, 20:47:09 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> ych a fi, mae gas gen i ffilmiau sy'n codi ofn, dw i ddim hyd yn oed yn licio /meddwl/ amdanyn nhw. 'swn i'n symud i stafell newydd, taswn i yn dy le di...;) -- simon aran, 10:50:07 10/15/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Wel, syniad da, Simon, dwi'n meddwl. Roedd y ffilm mor ddrwg... ugh. Dwi ddim yn licio ffilm dychryn hefyd. Ah, wel... dw i wedi tro'r radio mwy uchel. -- Heather, 04:17:36 10/16/01 Tue


[ Edit | View ]


[> Re: Pwnc y saithfed wythnos (2) -- Brieg, 21:58:40 10/14/01 Sun

Dw i ddim yn gallu gweld dim byd yn y tywyllwch, ond golau y dref a dw i'n medru dyfalu y nant a'i goedwig. Does dim llawer o swn : mae pawb wedi mynd i gysgu achos bod nhw wedi blino ar ol iddynt aros yn y fest-noz nos Sadwrn (mas o noson lawen gyda dawnsiau a cherddoriaeth draddodiadol) tan pedwar a pump o'r gloch yn y bore. Mae'n hen bryd i fi fynd hefyd.


[ Edit | View ]



[> Re: Dw i ddim yn gallu gweld dim byd yn y tywyllwch, ond golau y dref a dw i'n medru dyfalu y nant a'i goedwig. Does dim llawer o swn : mae pawb wedi mynd i gysgu achos bod nhw wedi blino ar ol iddynt aros yn y fest-noz nos Sadwrn (mas o noson lawen gyda dawnsiau a cherddoriaeth draddodiadol) tan pedwar a pump o'r gloch yn y bore. Mae'n hen bryd i fi fynd hefyd. -- Brieg, 22:00:06 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> ia, wnaethon ni gyd meddwl taw rhyw fath o anifail parti wyt ti... o'n i'n meddwl taw dim ond yn dy waith bod gennyt ti cyfrifiad? ti ddim yn gweithio tan mor hwyr, gobeithio?! -- simon aran, 10:53:30 10/15/01 Mon


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.