VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 18:27:44 10/01/01 Mon
Author: Judith
Subject: Pwnc y chweched wythnos

Pwnc y chweched wythnos yw - beth, yn dy farn di, sy'n cynrychioli diwylliant dy wlad (neu dy wlad mabwysiedig) y gorau? Ydy'r ystrydebau yn gywir neu ddim? Beth am dan dy wlad sy'n gwneud i ti teimlo'n falch ohonno neu beth hoffet ti newid amdano?

[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> 'Swn i'n dweud mae nad canu (fel mae rhan fwyaf o bobl yn credu) yw yng nghalon diwilliant Cymru ond barddoniaeth. Dangosir parch i'r beirdd gan rhoi'r anrhydedd uchaf iddynt yn yr wlad, sef y cadair yn yr eisteddfod. Y peth hoffwn i newid ydy'r diffyg hyder yn pobl Cymru. Yn fy marn i does dim esgus - mae gennyn ni pob rheswm i fod yn falch o ein wlad ni ac ein hunnain. Ond y peth hoffwn i wybod ydy - beth yn union ydy diwilliant Lloegr? Ydy o'n bodoli? -- Judith, 21:36:30 10/01/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Mae llawer o bobl yn meddwl am rygbi pan maen nhw meddwl am Gymru ond dw i’n meddwl dyw rygbi ddim yn perthnasol i Gymreictod heddiw. Dylai snwcer neu darts ein gêm genedlaethol heddiw. Ni’n llawer well chwarae gêmau tafarn na chwarae gêmau fel pêl droed neu rygbi. -- Steve, 09:22:54 10/02/01 Tue


[ Edit | View ]


[> Beth wyt ti'n awgrymu, Steve - ein bod ni yng Ngymru yn dreulio rhan fwyaf o'n amser ni mewn taferndai?? ... Fel taswn ni yn !... Gyda llaw, mae'n wych i weld ti yma, o'r diwedd. -- Judith, 16:53:34 10/02/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> Diolch Judith, ond dwi wedi bod yma ers gorffen y cwrs. Dwi wedi bod darllen bob wythnos ond dwi wedi bod brysur ofnadwy, felly, dw i ddim wedi gael llawer o amser i ysgrifennu ar y bwrdd. Dw i ddim yn cytuno da ti bod does dim diwylliant Saesneg. Dw i’n meddwl mae na ddiwylliant gyda bob cenedl, pwy bynnag ydyn nhw. Criced ar ‘old village greens’, dawnswyr Morris, cariad am y teulu frenhinol, stiff upper lip, ac ati, yw’r hen ystrydebau Saesneg ond mae na ddylanwadau newydd heddiw hefyd a diwylliant newydd. Dylanwadau Indiaidd, er enghraifft, ar cerddoriaeth, coginio, ffasiwn, ac ati. Cofia. Chicken Tikka Masala yw’r pryd o fwyd genedlathol Lloegr heddiw, fel wedodd rhyw gwleidyddwr. Cwestiwn diddorol arall: Oes na ddiwylliant Anglo-Welsh? -- Steve, 17:13:35 10/02/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> [> wel, mae 'na lenyddiaeth sy'n cael ei alw yn 'anglo-welsh', yntydy? ond dw i ddim yn siwr os ydy hynny'n golygu bod 'na diwylliant go-iawn. ella bod hi'n bosib i ddeud bod y diwylliant anglo-welsh yn un ffug, wedi dychmygu gan bobl sy wedi colli eu cymreictod wir. -- simon aran, 20:30:34 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> Dwi’n credu mae ‘na ddiwylliant Anglo-Welsh o ryw fath, sy’n diwylliant dosbarth gweithiol hefyd – llenyddiaeth Cymraeg trwy cyfrwng y Saesneg, gwleidyddiaeth adain chwith, rygbi, gwladgarwch Cymreig, bywyd teulu agos iawn, ac ati. Dw i ddim yn cytuno ‘da ti Simon, bod diwylliant Anglo-Welsh sy’n rywbeth wedi dychmygu gan bobl sy wedi colli eu cymreictod. Beth yw cymreictod? Ydy pobl sy’n siarad Saesneg wedi colli fe? Beth yw pobl Cymreig sy’n siarad Saesneg? – dan nhw ddim yn Saesneg ac mae diwylliant gyda nhw sy’n gwahanol i ddiwylliant Saesnig. Cymro o’n i pan siaradais i dim ond Saesneg a dw i ddim yn hollol gwahanol nawr dwi’n siarad Cymraeg. Hefyd, mae na lawer mwy i gymreictod na’r iaith Gymraeg wrth cwrs. Dyw diwylliant ddim yn jyst yr iaith mae pobl yn siarad neu y llenyddiaeth maen nhw ysgrifennu. -- Steve, 13:50:37 10/17/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Dwi ddim yn credu mae yna diwylliant Anglo-Welsh i ddweud y gwir - diwylliant Cymreag ydy o, sy'n cynnwys gwahanol agweddau ee. cymoedd y de, mynyddoedd y gogledd sydd efo diwylliant ychydg yn wahanol i'w gilydd - mae o fel acenion i ddweud y gwir - un ychydig yn wahanol ar gyfer pob rhan o Gymru ond pob un dal yn Gymraeg. Dwi'n credu mai'r diwylliant angol-welsh rydych yn trio ei ddisgrifio h.y. rygbi, sosialaeth ayyb yw ddiwylliant de cymru. -- Ffion, 22:44:39 10/17/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> Dwi’n cytuno. Mae e’n diwylliant Cymraeg ond rhaid i ni defnyddio y gair ‘Anglo-Welsh’ i disgrifio diwylliant Cymraeg trwy cyfrwng y Saesneg. Gair hyll yw e sy’n awgrymu bod mae e’n diwylliant hanner Cymraeg a hanner Saesneg, ond dyw e ddim wrth cwrs. Beth gallwn ni defnyddio? Oes gair Cymraeg am ‘Anglo-Welsh’? Cymraeg di-Gymraeg? A dwi’n cytuno hefyd bod mae na llawer o ddiwylliannau Anglo-Welsh gyda gwahaniaethau bach. Mae e’n posib i weld yr un peth yn diwylliant Cymraeg. -- Steve, 10:43:26 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> dw i'n licio dechrau pethe! iawn, steve, felly ga i ofyn be ti'n feddwl am y posiblrwydd y byddan ni'n colli'r iaith i gyd? ar ol be ti wedi deud, mi fyddai hynny golgygu tipyn o siom, ond dim byd mor waeth nag hynny, achos dyn ni'n medru mynd ymlaen bod yn gymry heb yr iaith...? dw i'm yn cytuno am eiliad. gwlad heb iaith gwlad heb galon, fel mae ffion yn hoff o ddeud. y cymry di-gymraeg? maen nhw pobl sy wedi cael eu tafodau torri allan eu gegau cyn iddyn nhw hyd yn oed wedi cael eu geni... os oes 'na diwylliant anglo-welsh o gwbl (be dy'r gair gymraeg am anglo-welsh?!), diwylliant a adeiladwyd ar y gweddillion diwylliant cymraeg go-iawn y pedwaredd ganrif ar bymtheg ydy o. -- simon aran, 15:42:13 10/18/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> Dwi’n meddwl mae na bosiblrwydd byddan ni colli’r iaith Gymraeg. Am llawer o rhesymau, dwi’n meddwl bydd hynny yn trychinebus ond dw i ddim credu bod mae yn amhosib i fynd ymlaen fel gwlad heb yr iaith Gymraeg. Mae Cynulliad da ni nawr ac efallai bydd llywodraeth o ryw fath yn y dyfodol gyda mwy pwer. Ond dwi’n meddwl bod e’n peryglus beth wyt ti’n dweud Simon . . . ‘gwlad heb iaith gwlad heb galon’. Ti’n awgrymu bod mae popeth yn Cymraeg yn da ac mae popeth yn Saesneg yn drwg. Ti’n awgrymu bod mae pobl sy’n siarad Cymraeg yn werth mwy na pobl sy ddim. Hefyd, ti’n dweud bod mae cymry di-gymraeg yn ‘pobl sy wedi cael eu tafodau torri allan eu gegau cyn iddyn nhw hyd yn oed wedi cael eu geni’. Mae hynny yn awgrymu bod mae’n naturiol i siarad Cymraeg a dyw e ddim yn naturiol i siarad Saesneg. Dyw hynny ddim yn teg. -- Steve, 10:57:57 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> mae hyn yn troi yn bywiog, yndy?!...:) reit, lle i ddechrau... yma: dydy 'gwlad heb iaith gwlad heb galon' ddim yn golygu bod pob dim cymraeg a chymreig yn well na phob dim saesneg neu saesnig, ddim o gwbl - mae o'n golygu bod gwlad sy'n colli ei hiaith yn colli y prif gwahaniaeth rhwynddyn nhw a gwledydd eraill, y gwahaniaeth mwyaf gwerthchweil. y calon. mae diversity iaithyddol yn un mor pwysig a diversity biolegol, a mae hynny wedi bod yn pwsig iawn i ddynoliaeth. hefyd, dw i ddim yn deud o gwbl bod pobl sy'n siarad cymraeg yn well na phobl eraill - gwahanol, yndy, ond well? dim ond weithiau...;) (jôc, jôc!) a be' o'n i'n feddwl efo'r tafodau 'na ydy bod y di-cymraeg wedi colli rhywbath sy'n perthyn iddyn nhw, mewn ffordd hollol annheg. 'sgenno fo dim byd i'w wneud efo pa mor naturiol ydy'r iaithoedd - trio i bwysleisio'r ffaith bod cymry di-cymraeg wedi colli rhwybath ydw i. -- simon aran, 11:42:45 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> mae'n glir bod un gwahaniaeth syfrdaenol rhwng ti a fi, a dyna ydy be' dyn ni'n meddwl am gymru heb yr iaith. dw i ddim yn credu y byddai hi cenedl go-iawn heb yr iaith - diwylliant tipyn yn wahanol i'r diwylliant dros y fin, ond mae'r diwylliant yn gogledd lloegr yn un mor wahanol. os dyn ni'n colli'r iaith, dim ond rhyw cof gwan o wedi bod yn cenedl sy'n mynd i barhau, dim y peth eu hun. 'sai well i mi weld yr iaith yn cryfhau na annibyniaeth hyd yn oed. -- simon aran, 11:43:54 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> o, a beth am beint y tro nesa' dw i'n ol yn aberystwyth? os ti ddim yn meddwl mod i'n gormod o 'language fascist'...;) -- simon aran, 11:46:02 10/19/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> Dyna well! Nawr dwi’n gallu cytuno ‘da ti. Mae’r iaith Gymraeg yn llawer mwy na beth ydyn ni’n defnyddio i siarad – mae’n cario diwylliant, cofion, ac ati. bron popeth amdanon ni. Os ni’n colli iaith, ni’n colli llawer mwy na geiriau. Hyd yn oed mwy pwysig, ti ddim yn gormod o language fascist i gael peint gyda y tro nesa ti yn Aberystwyth. Y Cŵps neu Y Cŵps? -- Steve, 13:11:21 10/23/01 Tue


[ Edit | View ]


[> Oes 'na gwlad Anglo-Welsh? -- Judith, 19:43:04 10/02/01 Tue


[ Edit | View ]

[> [> Ydy diwylliant yn angen gwlad neu llywodraeth? Beth am diwylliant Africa-Americanaidd, Kurdish, Romany, Aborigine, ac ati? -- Steve, 11:49:00 10/03/01 Wed


[ Edit | View ]


[> Digon teg, Steve. Mae 'na rhyw fath o ddiwylliant Anglo-Welsh yn y cymoedd/gogledd dwirain/Cas Newydd/Caerdydd ac ati, ond dw i ddim yn credu eu bod nhw i gyd yr un fath - diwylliant rhanbarthol efallai? Dw i'n gwybod am dim ond un peth sy'n gallu uno bob rhanbarth Anglo-Welsh a Chymry Cymraeg, sef gwylio tim rygbi Cymru yn chwarae (yn enwedig yn guro Lloegr - cofia 11/4/99). Dwyt ti ddim wedi darbwyllo fi eto, Steve, y basai hi'n posib i deimlo emosiynau mor gryf gan gwylio gem o ddartau! -- Judith, 13:03:25 10/03/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> Beth ydy pobl eraill yn meddwl? Oes na ddiwylliant Cymraeg? Beth ydy e? Ydy ystrydebau yn cywir? Beth am gwleidydd eraill? -- Steve, 17:39:27 10/08/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> yn bersonol, a rhywbath yn hollol personol ydy o, dw i'n tueddu i deimlo bod y diwylliant cymreig yn dibynnu ar yr iaith, er fod cymry di-cymraeg ddim yn licio'r awgrymiad. -- simon aran, 20:33:00 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> Erbyn hyn dw i ddim yn siwr fy mod i'n deallt beth yn union ydy'r diwylliant Cymraeg. Dw i ddim yn cydnabod yr hen ystrydebau yng Ngymru gyfoes. Sut mae'n posib i gymharu diwillyant Cymraeg a diwylliant Anglo-Welsh heb ddiffinio beth yw diwylliant Cymraeg yn y lle cyntaf? Felly, beth yw'r diwylliant Cymru cyfoes go iawn? -- Judith, 01:35:45 10/20/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> rhan o'r broblem yma, dw i'n meddwl, ydy'r ffaith bod diwylliannau yn newid. ydy diwylliant cymreig cyfoes yn rhwybath gwahanol i'r diwylliant traddodiadol, neu rhan o'r un peth? hefyd, 'swn i'n deud bod 'na ddim lot o wahaniaeth rhwyng diwylliannau gwahanol beth bynnag. mae'n digon teg i ddisgrifio diwylliant gogledd cymru fel un amaethyddol yn bennaf, sy'n golygu fod o'n tebyg iawn i lawer o lefydd eraill, fel wrth gwrs y mae o. beth sy'n gwneud ni yn wahanol i'r saes yn ngogledd lloegr, 'lly? ella dim ond yr iaith... -- simon aran, 12:06:38 10/21/01 Sun


[ Edit | View ]


[> O'r diwedd, mae rhywun wedi ymateb i fy ngynnig i gyfieithu - yn anffodus Brieg oedd o! Dwedodd o: 'kalz eus an traou a vez lavaret diwar-benn Breizh a c'hell bezan gwelet evel traou gwir, met ar pezh zo, bez e c'hall o fouez bezan kresket betek re...', sy'n golygu: 'gellir ystyried llawer o'r pethau a ddywedir am Lydaw fel pethau sy'n wir, ond y peth yw y gellir gorliwio eu pwysigrwydd..'. Brieg, y tro nesaf rwyt ti'n anghofio dy Gymraeg di (rhag dy gywilydd) 'swenna Ffrangeg, os gwela di'n dda. -- Judith, 00:54:28 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> mae brieg wastad yn siarad mor posh, yntydy? -- simon aran, 20:35:11 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> Ydy Llydaweg yn posh? Dim ond Llydaweg ysgrifennod o, gwaetha modd. Gobeithio ei fod o'n hapus efo'r cyfieithiad. -- Judith, 19:38:50 10/13/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> [> [> felly ti sy'n siarad yn bosh, efo 'gellir' hyn a 'gellir' llall...;) iawn, 'lly, dweda wrthon ni, dyn ni gyd isio gwybod, sut wnest ti cyfiethu fo? dw i ddim yn dy gofio di yn siarad llydaweg mor aml na hynny mis awst... -- simon aran, 12:14:26 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> Roeddwn i yna i wella fy Ngymraeg i, nid i siarad yn Lydaweg. -- Judith, 14:07:52 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> paid hyd yn oed dechrau honi fod ti'n siarad llydaweg. dw i'm yn dy gredu di am eiliad. 'lly sut wnest ti? -- simon aran, 16:28:19 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> Iawn ... rwyt ti'n ennill - wnes i ddechrau cyfieithu'r brawddeg gan ddefnyddio'r geiriadur ar-lein Llydaweg ond doedd y geiriau i gyd ddim yna (gwaith i Brieg, efallai?), neu roedd ei Lydaweg o yn rhy posh i'r geiriadur. Felly wnes i ofyn i rywun, Cymraeg ei iaith, sydd yn rhugl yn Llydaweg (ac efo gwraig Llydaweg) i'w wneud o i fi - digon syml. Mae ei Gymraeg o yn Gymraeg posh. Wnes i meddwl am cyfieithu fo i Gymraeg cyffredin ond penderfynais i basai'n well gan Brieg yr iaith posh. -- Judith, 22:21:05 10/14/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> [> [> [> [> [> [> aha! o'n i'n drwgdybio rhywbath fel 'ny. twt. a ti'n hollol iawn, mae'n glir bod gen ein brieg ni tueddiadau naturiol tuag at fod yn crachach...! -- simon aran, 10:44:50 10/15/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Re: Pwnc y chweched wythnos Diolch i Judith a Simon Aran. Dyma ateb i bwnc y chweched wythnos, tipyn o flas o Lydaw. Gobeithio fydd hyn ddim yn swnio yn rhy bosh. Tybed ai'r Llydaweg (iaith gyfnither i'r Gymraeg), y crempogau, yr esgidiau coed, y gerddoriaeth a'r dawnsiau, neu ein hanes fel pobl annybynnol sy'n cynrychioli diwylliant fy ngwlad y gorau. Dw i'n credu taw'r gerddoriaeth, y dawnsiau a'r gwisgau traddodiadol (y rhai gorau yn y byd, a dweud y gwir) sy'n cynrychioli Llydaw ymhlith yr estroniaid a'r rhan fwyaf o'r Llydawyr, a nid yr hanes o gwbl. Mae ychydig o ystrydebau am y Llydawyr a'r wlad sy'n eitha cywir. Er enghraifft, dydy'r merched yma ddim yn arfer cael eu meistroli gan eu gwyr nhw (mae'r Ffrancwyr sy wedi priodi merched o Lydaw yn hoffi'r agwedd 'ma ...neu yn ysgaru). Ystrydeb arall : mae'r Llydawyr yn ''bennau caled'', ond dim yn ddigon yn fy marn i, ynglyn â'r iaith. Mae rhai dweud hefyd bod gan yr Albanwyr, y Cymry ac ati yr un ystrydeb. -- Brieg, 21:58:54 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]


[> A dweud y gwir, dw i ddim yn gwybod beth hoffwn ei newid am agweddau y Llydawyr, ond, taswn i'n gallu, fe anfoniwn i bob Llydawr mas o Lydaw (a Ffrainc) i weld yn y gwledydd eraill beth yw hawliau yr ieithoedd lleiafrifol ac i weld sut mae'r pobloedd bach yn cael dysgu eu hanesau cenedlaethol : cic mawr ym mhenôl pawb i fynd i agor eu meddyliau yn y byd i gyd, allan o ddylanwad Ffrainc sy eisiau bod ein unig ffenestr ni ar y byd (Cymraeg ofnadwy). Meddyliwch am Simon Aran ! -- Brieg, 22:02:12 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> dw i'n cytuno'n llwyr - dylai pawb teithio'n fwy. ond gan ddeud hynny, mae'n braf i gadw rhai o'r hen draddodiadau yn fyw, ac ella os ti'n teithio'n gormod, ti'n colli dy wreiddiau di i gyd... -- simon aran, 22:12:28 10/12/01 Fri


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.