VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 14:40:53 09/11/01 Tue
Author: simon aran
Subject: Pwnc Y Drydedd Wythnos

Oes 'na gobaith i'r Gymraeg yn y dyfodol?

Be' sy eisiau newid i gadarnhau bod yr iaith yn dal i fyw?

[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> helo bawb!! wel dyma fi o'r diwedd yn sgwennu atoch chi i gyd - gwell hwyr na hwyrach!! ces i gymaint o hwyl gyda chi dros yr haf - dw i'n dal i iglian (giglo-treiglad posib?!) i fi fy hun wrth feddwl am y pnawn llawen, yn enwedig corn gwlad breig a chleddyf fflopi Gwilym!! dw i'n setlo lawr yn dda iawn yma yng Nghaerdydd - ac mae'r eliffant yn cadw cwmni i mi ar wal y swyddfa. yn lwcus i ti, nid fi fydd yn dy ddysgu di Melissa - ond gobeithio wela i di cyn bo hir. mae nifer ohonoch chi wedi son am fynd i'r rali - beth am drio trefnu cwrdd? a dyna fi yn dod at bwnc yr wythnos. mae angen llawer o waith caled i gryfhau'r iaith Gymraeg - ond gobeithio bydd y rali yn dangos gymaint o frwdfrydedd sydd yna dros ei chadw'n fyw. byddwch yn barod i ddefnyddio'ch Cymraeg ar bob achlysur, a mynnu (insist) cael ei defnyddio os oes rhaid. hwyl am y tro, a diolch eto am fod yn ddosbarth mor wych!! -- siwan, 11:52:57 09/12/01 Wed


[ Edit | View ]

[> [> croeso i'r bwrdd! a diolch am ymuno â ni... dw i'n falch i dy weld di meddwl mor ofalus am y treiglad posib - mae'n glir wnest ti ddysgu lot ar y cwrs...;) -- simon aran, 16:42:57 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]


[> iawn, dw i'n weld, ddim lot o ddiddordeb mewn pwnc y drydedd wythnos! cofiwch chi gyd 'wan, chi'n hollol hollol rhydd i ddechrau pwnciau trafod eich hunain - fel wedes i yn y e-bost olaf, 'sgen i'm lot o ddychmyg... -- simon aran, 17:08:39 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]


[> ac i ateb fy cwestiwn fy hun, dw i'n hollol siwr bod 'na dyfodol cryf a llachar i'r iaith dyn ni gyd yn ei charu hi... er bod yr iaith dan fygythiad mawr, mae 'na digon o bobl sy'n barod i frwydro drosti hi, mae 'na digon o bobl sy'n barod i godi lais am y sefyllfa. y peth arall sy isio ydy arian, wrth gwrs... -- simon aran, 17:11:13 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]


[> Dwi'n meddwl bod yna dyfodol i'r iaith. Ond mae yna bobl byse'n gwneud eu gorau glas i atal hyn. Mae'n rhaid i ni sefyll yn gryf a beidio a chymeryd y llwybr llydan. Mi fyse hi'n hawdd gadael i'n iaith a rhan o'n diwylliant diflannu ond mae'n rhaid i ni sylweddoli hyn a gwneud rhywbeth i wneud yn siwr nad yw hyn yn digwydd. -- Ffion, 17:44:03 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> heb isio bod yn anghwrtais, mae'n braf iawn gweld pobl ifanc yn poeni am ddyfodol yr iaith - os dyn ni'n medru magu cenhedlaeth sy'n dallt pa mor bwysig ydy o i ymgyrchu dros y pethe dyn ni'n eu caru nhw, mae'n glir bod 'na gobaith. -- simon aran, 19:12:10 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> Yn anffodus does dim llawer o bobl ifanc eraill dwi'n nabod sy'n teimlo'r un fath. Dwi ddim yn credu bod llawer o bobl ifanc yn peoni gormod am ddyfodol yr iaith, dw i'n arbennig iawn (er dwi'n dweud hynny fy hun!) -- Ffion, 18:54:52 09/14/01 Fri


[ Edit | View ]

[> [> [> [> grêt, diolch am wneud i mi deimlo'n mor wych...;) ond, gan ddeud hynny, dw i'n meddwl bod 'na mwy a mwy o bobl rhwng ugain a phymtheg ar hugain sy'n awyddus i wneud rhwybath. gyda llaw, sut dych chi gyd yn mynd i lawer bore 'fory? os chi isio lifft, dweda wrth dy fam i ffonio fi... -- simon aran, 20:12:19 09/14/01 Fri


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.