VoyForums
[ Show ]
Support VoyForums
[ Shrink ]
VoyForums Announcement: Programming and providing support for this service has been a labor of love since 1997. We are one of the few services online who values our users' privacy, and have never sold your information. We have even fought hard to defend your privacy in legal cases; however, we've done it with almost no financial support -- paying out of pocket to continue providing the service. Due to the issues imposed on us by advertisers, we also stopped hosting most ads on the forums many years ago. We hope you appreciate our efforts.

Show your support by donating any amount. (Note: We are still technically a for-profit company, so your contribution is not tax-deductible.) PayPal Acct: Feedback:

Donate to VoyForums (PayPal):

Login ] [ Contact Forum Admin ] [ Main index ] [ Post a new message ] [ Search | Check update time | Archives: 123[4] ]


[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]

Date Posted: 17:41:58 08/26/01 Sun
Author: simon aran
Subject: Pwnc Yr Wythnos

'sdim angen siarad /dim ond/ am pwnc yr wythnos, ond jest rhag ofn i chi methu meddwl am unrhywbeth arall i ddeud, dyma ydy o:

Faint ohonoch chi sy wedi siarad Gymraeg ers gadael y cwrs? Lle (neu 'Ble', os chi'n dwad o'r De), ac efo pwy?

Dewch ymlaen, dyn ni gyd isio gwybod...

[ Next Thread | Previous Thread | Next Message | Previous Message ]


Replies:

[> iawn, i ddechrau - dw i wedi siarad Gymraeg efo hogan yn y siop sglods, gan ddeud 'ych a fi, naci, dwi'm isio sos goch.' a wedi methu racs i siarad Gymraeg efo'r hogan yn y garej yn Nhalybont, er bod hi'n rhugl, achos mod innau a fy nheulu erioed wedi siarad Saesneg efo nhw. hogyn drwg ydw i, wi'n gwybod. -- simon aran, 17:45:46 08/26/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> Wel, dw i wedi siarad Cymraeg gyda 'merch i, 'ngwraig i, 'mam i, 'nghymdogion i, y fenyw yn y siop bapurau, y fenyw yn y banc. Ydy , mae'r Wlpan wedi rhoi llawer o hyder i fi i siarad Cymraeg ac ymarfer y Treiglad Trwynol (Grwp Pop da o'r 80'au). -- Rob Dery, 16:35:56 08/30/01 Thu


[ Edit | View ]

[> [> [> y blydi tsît! wel, ers dydd sul dw i 'di ymarfer iaith y nefoedd efo hogia'r côr, hogan yn y banc gan drefnu gyrru arian i'r Eidal, rhai o'r cynulleidfa neithiwr, hogyn 'llinell boeth bysus tafod' yn swyddfa cymdeithas yr iaith, haf ar y ffôn, a rhai pobl saesneg eu hiaith mewn siopau yn aberystwyth. 'moral victory', wi'n teimlo... a 'sdim isio collnod yn 80au - ti'n gwneud yr un peth yn y saesneg? 80's? rhag dy gywilydd di...! -- simon aran, 13:35:03 08/31/01 Fri


[ Edit | View ]


[> a fel wedes i, dim blydi treigladau 'ma, cofiwch 'wan. (ia, ia, wi'n gwybod, 'am bwnc', 'i chi fethu', yadda yadda yadda...) -- simon aran, 18:52:58 08/26/01 Sun


[ Edit | View ]


[> Re: Mi ddechreuais i ddefnyddio Cymraeg cyn i fi cyraedd adre wythnos diwethaf gan siarad efo'r fermwr oedd wedi llenwi'r lon efo defaid. Dw i wedi siarad efo'r teulu, gan gynwys Gwilym (y cath) oedd yn edrych arna i yn ymheus i ddechrau, ond mae o'n dysgu' iaith rwan - mae o'n deallt "tyrd" a "bwyd", yn enwedig pan yn cael eu ddefnyddio gyda'u gilydd. Hefyd dw i wedi siarad efo pobl yn y 'tyrfa' yn wylio'r gem pel droed rhwng Llanfyllin ac Aberystwyth, efo'r plymwr (pethau technoleg ac yn defnyddio'r dyfodol ar yr un pryd - yn ofnus), ac efo'r prifathrawes - yn trefnu popeth ar gyfer y tymor newydd ( impressed neu be'?). Nos Fercher wnes i gweiddi at y teledu gan gwylio Caerdydd yn CURO Cas Newydd. -- Judith, 00:46:03 09/02/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> dw i 'di blino jest clywed amdano fo... da iawn i ti! o'n i'n anhapus iawn bod Gwilym wedi troi yn cath - ydy hyn yn wir, Gwil? a swn i'n licio gwybod be wedest ti wrth y ffermwr...:) -- simon aran, 17:54:06 09/02/01 Sun


[ Edit | View ]

[> [> ac o'n i'n falch iawn i weld bod Caerdydd wedi deffro a ddechrau eu tymor nhw...:) llongyfarchiadau... ond castell nedd yn ddal i edrych fel y gorau erbyn hyn...;) -- simon aran, 21:17:34 09/02/01 Sun


[ Edit | View ]


[> Re: Pwnc Yr Wythnos -- Glenson, 02:19:53 09/03/01 Mon

Does dim cyfle 'da fi i siarad â neb (yn Ottawa) ond dw i wedi anfon sawl neges ebost yn Gymraeg. Prynais i tua 30 llyfrau Cymraeg yng Nghymru ac dw i'n bwriadi eu astudio nhw cyn y cwrs nesa!
Hwyl am y tro,
Glenson


[ Edit | View ]


[> [> wedodd glenson: 'Does dim cyfle 'da fi i siarad â neb (yn Ottawa) ond dw i wedi anfon sawl neges ebost yn Gymraeg. Prynais i tua 30 llyfrau Cymraeg yng Nghymru ac dw i'n bwriadi eu astudio nhw cyn y cwrs nesa! Hwyl am y tro, Glenson.' lwc dda efo darllen nhw...;) a cofia, pan ti'n ateb pwnc, rhaid ysgrifennu yn y bocs 'message subject (required)' er mwyn dangos dy ateb ar y tudalen... -- simon aran, 12:30:33 09/03/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Re: Pwnc Yr Wythnos -- Steve Thompson, 12:58:14 09/03/01 Mon

Sut mae pawb,
Ydy pawb yn siarad llawer o Gymraeg? - bydd 'na drafferth os chi ddim! Dw i wedi bod siarad llawer o Gymraeg ers gorffennodd y cwrs, ond llawer o Saesneg hefyd. Mae'n eitha anodd, ondife, i gario ymlaen siarad Cymraeg ar ol y cwrs. Dw i wedi bod siarad Cymraeg gyda pobl yng ngwaith a dw i'n gallu weld y poen ar eu wynebau pan dw i'n manglo'r iaith, ond sdim ots, rhaid i ni persevere beth bynnag. Dysgodd llawer ohonyn nhw Cymraeg fel ail iaith, felly, maen nhw gwybod y sefyllfa a sut mae e'n teimlo. Dw i wedi bod gwrando ar Radio Ceredigion (ofnadwy) a wylio Pobl y Cwm ar y teledu (gwaeth), ond mae'n diddorol i weld faint ych chi'n deall. Mae'n teimlo wych pan ych chi'n gwybod beth sy'n digwydd ond siom am yr actio.
Pob lwc i bawb a dal ati
Steve


[ Edit | View ]


[> [> dwedodd steve (a wnaeth methu darllen y rheolau!): 'Sut mae pawb, Ydy pawb yn siarad llawer o Gymraeg? - bydd 'na drafferth os chi ddim! Dw i wedi bod siarad llawer o Gymraeg ers gorffennodd y cwrs, ond llawer o Saesneg hefyd. Mae'n eitha anodd, ondife, i gario ymlaen siarad Cymraeg ar ol y cwrs. Dw i wedi bod siarad Cymraeg gyda pobl yng ngwaith a dw i'n gallu weld y poen ar eu wynebau pan dw i'n manglo'r iaith, ond sdim ots, rhaid i ni persevere beth bynnag. Dysgodd llawer ohonyn nhw Cymraeg fel ail iaith, felly, maen nhw gwybod y sefyllfa a sut mae e'n teimlo. Dw i wedi bod gwrando ar Radio Ceredigion (ofnadwy) a wylio Pobl y Cwm ar y teledu (gwaeth), ond mae'n diddorol i weld faint ych chi'n deall. Mae'n teimlo wych pan ych chi'n gwybod beth sy'n digwydd ond siom am yr actio. Pob lwc i bawb a dal ati, Steve.' -- simon aran, 17:35:04 09/03/01 Mon


[ Edit | View ]

[> [> [> mae'n syml, gw'boi bach, jest sgwenna yn y bocs 'message subject' a gad i ni gyd yn ei weld o...;) da iawn efo dy gymraeg di, a diolch eto am gyfeiriad cywir melissa! -- simon aran, 17:37:43 09/03/01 Mon


[ Edit | View ]


[> Re: Pwnc Yr WythnosSut mae, bawb !? Mae'n ddrwg gen i mod i ddim wedi ymuno yn gynharach. Ers i mi gyrraedd Llydaw dw i ddim wedi cael cyfle i siarad Cymraeg ond yn syth ar ôl y cwrs es i i ymweld â ffrind o Lydaw oedd ar y cwrs wlpan yn Lanbedr-Pont-Steffan. A dweud y gwir don i ddim yn ei nabod e cyn hynny : ron i wedi cysylltu â fe ar y Wê (diolch i Pedr MacMullen oedd wedi dysgu yn Llanbedr a wedi rhoi ei gyfeiriad e i fi). Mi arhosais i yno am ddeuddydd a ches i gyfle i siarad â rhai o'r tiwtoriaid, mewn tafarnau, ac efo fy ffrind i wrth gwrs (98 y cant yn Gymraeg, er iddo fe allu siarad Llydaweg yn rhugl). Mae'r tiwtoriaid yno yn debyg dros ben i rai Aberystwyth : neis iawn, byth yn poeni am gamgymeriadau treiglo y dysgwyr ac yn hoffi mynd i'r dafarn. Dyna felly'r tro diwetha i fi siarad yn Gymraeg (dylwn i ddweud "ceisio siarad"). Felly, gobeithio y bydd llawer ochonoch chi yn siarad ar y bwrdd er mwyn i bawb gadw'n heini (yn ieithyddol). Cyn bo hir ! -- brieg, 21:30:07 09/08/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> falch iawn i glywed gest ti'r cyfle i ddefnyddio dy gymraeg di yn llanbedr... a gobeithio y bydd y bwrdd yn rhoi cyfle arall i ti dal ati efo'r gymraeg, hyn yn oed yn llydaw... -- simon aran, 17:06:10 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]


[> Re: Pwnc Yr Wythnos P.S. Cwestiwn i arweinwr ysbrydol y bwrdd : oes hawl i siarad am bynciau gramadegol, am bethau bod ni ddim wedi deall neu am eriau dyn ni ddim wedi dod o hyd iddyn nhw yn ein geiriaduron ?Cwestiwn arall : dw i'n hoff o gael fy nghywiro gan bobl eraill. Felly os oes unrywun yn gweld camgymeriadau yn fy llythyrau, croeso iddynt ar brieg@bzh5.com i ddweud wrtha i beth oedd yn anghywir. Diolch yn fawr iawn. -- brieg, 21:37:44 09/08/01 Sat


[ Edit | View ]

[> [> iesu, oes 'na ysbrydolion yma? posibilrwydd iasoer... 'swn i, yn bersonol, yn dweud dyn ni gyd yn medru defnyddio'r bwrdd ar gyfer unrhywbeth dyn ni isio, yn yr iaith gymraeg. dw i'n siwr, os ti isio gofyn cwestinnau gramedegol, bod 'na digon o siaradwyr rhugl yma i'w hateb nhw... ac os dw i'n weld camgymeriadau yn be' ti'n sgwennu, dw i'n mynd i gywiro nhw yma ar y bwrdd... gobeithio fod ti'n digon barod i hynny! -- simon aran, 17:04:20 09/13/01 Thu


[ Edit | View ]




[ Contact Forum Admin ]


Forum timezone: GMT+0
VF Version: 3.00b, ConfDB:
Before posting please read our privacy policy.
VoyForums(tm) is a Free Service from Voyager Info-Systems.
Copyright © 1998-2019 Voyager Info-Systems. All Rights Reserved.